More dates

Environmental Sustainability in Sport and Physical Activity - Wales Focus Group 1

Online Event
Add to calendar
 

Event description

Helpwch ni i siapio ein dyfodol - rhannwch eich barn ar yr hyn sydd ei angen i helpu'r sector chwaraeon a gweithgarwch corfforol i gyflymu'r camau gweithredu ar gynaliadwyedd amgylcheddol, yn y grŵp ffocws ar-lein yma.

Mae Sport England, sportscotland, a Chwaraeon Cymru yn cynnal ymgynghoriad sector cyfan ar gynaliadwyedd amgylcheddol, sy’n cynnwys grwpiau ffocws, cyfweliadau, ac arolwg ar lawr gwlad.

Mae'r grwpiau ffocws wedi'u bwriadu'n bennaf ar gyfer Cyrff Rheoli Cenedlaethol a “sefydliadau ymbarél” (cyfeirir atynt hefyd fel partneriaid system / cymdeithasau / cynghreiriau / sefydliadau sy'n aelodau). Maent hefyd yn berthnasol i Awdurdodau Lleol, a pherchnogion a gweithredwyr y llefydd a'r mannau lle mae gweithgarwch corfforol yn digwydd, dan do ac yn yr awyr agored. Mae croeso hefyd i arbenigwyr cynaliadwyedd y sector chwaraeon.

Bydd y grŵp ffocws rhyngweithiol 1.5 awr yma'n cael ei gynnal ar-lein, i rannu a thrafod eich gwybodaeth am dair agwedd allweddol: y camau gweithredu presennol, heriau, a'r gefnogaeth sydd ei hangen. Byddwn yn defnyddio cyfuniad o sesiynau trafod a Miro (bwrdd gwyn ar-lein), i gasglu cymaint o safbwyntiau â phosibl. Cysylltwch â kate.b@usefulprojects.co.uk os oes gennych chi unrhyw ofynion hygyrchedd yr hoffech i ni eu darparu ar eich cyfer.

Bydd y sesiwn yma'n cael ei gyflwyno yn Saesneg ond os hoffech iddo gael ei gyfieithu ar y pryd i'r Gymraeg, bydd posib trefnu hyn. E-bostiwch kate.b@usefulprojects.co.uk os hoffech wneud cais am hyn.

Bydd canfyddiadau'r grŵp ffocws hwn yn cael eu defnyddio i lywio a llunio dyfodol y gefnogaeth cynaliadwyedd amgylcheddol ar gyfer y sector chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar lawr gwlad.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gyflwyno gan Useful Projects, sef ymgynghoriaeth cynaliadwyedd. Fel B Corp™ a Menter Gymdeithasol, mae'n sefydliad sy'n cael ei sbarduno gan bwrpas gyda chenhadaeth i greu buddion amgylcheddol a chymdeithasol.

Os na allwch chi ddod i'r sesiwn yma, ystyriwch y sesiynau grŵp ffocws canlynol yn ei le:

Diolch yn fawr 

Help us shape our future - share your views on what is needed to help the sport and physical activity sector accelerate action on environmental sustainability, at this online focus group.

Sport England, sportscotland, and Sport Wales are carrying out a sector-wide consultation on environmental sustainability, that comprises of focus groups, interviews, and a grassroots survey.

The focus groups are primarily intended for National Governing Bodies and “umbrella organisations” (also referred to as system partners / associations / alliances / member organisations). They are also applicable to Local Authorities, and the owners and operators of the places and spaces where physical activity happens, both indoors and outdoors. Sports sector sustainability experts are also welcome.

This 1.5 hour interactive focus group will take place online, to share and discuss your insights on three key aspects: current actions, challenges, and support needed. We will use a combination of discussion sessions and Miro (an online whiteboard), to capture as many views as possible. Please contact kate.b@usefulprojects.co.uk if you have any accessibility accommodations you would like us to make for you.

This session will be delivered in English but if you would like it to be simultaneously translated into Welsh then this can be arranged. Please email kate.b@usefulprojects.co.uk if you would like to request this.

The findings from this focus group will be used to inform and shape the future of environmental sustainability support for the grass roots sports and physical activity sector.

This consultation is being delivered by Useful Projects, a sustainability consultancy. As a B Corp™ and Social Enterprise, they are a purpose-driven organisation on a mission to create environmental and social benefits.

If you are unable to make this session, please consider the following focus group sessions instead:


Thank you

Powered by

Tickets for good, not greed Humanitix dedicates 100% of profits from booking fees to charity

This event has passed
Get tickets
This event has passed
Get tickets
Online Event
Host icon
Hosted by Useful Projects